Cymraeg

R W ROBERTS A’I FAB

Cyfarwyddwyr Angladdau Annibynnol.
Cysylltwch
coffin

CROESO – WELCOME

Cwmni o gyfarwyddwyr angladdau annibynnol yw R W Roberts a’i Fab , wedi’w lleoli yn Ninbych ac Abergele yng Ngogledd Cymru. Rydym yn cynnig gwasanaeth personnol a chyflawn, ddydd a nos, a’n bwriad yw i sicrhau fod yr holl drefniadau ar gyfer yr angladd yn cael eu cyflawni gyda gofal, sensitifrwydd, parch a chwrteisi. Byddwn hefyd yn cyflwyno amcangyfrif llawn, fesul eitem, o gostau'r angladd i chwi.

Mae cwmni R W Roberts a’i Fab yn aelod o Gymdeithas Genedlaethol y Cyfarwyddwyr Angladdau Cyngrheiriol ag Annibynnol (National Society of Allied and Independent Funeral Directors) ac yn cydymffurfio a Chôd Arfer Da SAIF.
wreath flowers

Byddem yn:

  • Cynnig cymorth ar bob agwedd, o gofrestu’r marwolaeth i gynghori ar ambell beth y bydd rhaid ei gysidro ar ol yr angladd
  • Cyflawni’r holl drefniadau ar gyfer yr angladd yn y capel, yr eglwys neu’r amlosgfa
  • Cynnig cyngor ar gyhoeddiadau papur newydd, taflenni ar gyfer y gwasanaeth, dewis ag archebu blodau, rhoddion i elysennau a cherrig beddi neu gofebau eraill
Rydym hefyd yn aelodau o SAIFCharter ac yn cynnig cynlluniau angladd y gellir talu amdanynt o flaen llaw trwy Ymddiriedolaeth Golden Charter.
Gwasanaeth 24 Awr

Contact us

Share by: